History of the Llangollen Canal
The Shropshire Union Canal, or 'Shroppie', is a generic term for an extensive network of over 200 miles of waterways once owned by the Shropshire Union Railways and Canal Company. The line now known as the Llangollen Canal was part of this network. It runs from Hurleston Junction through the town of Llangollen and on to Llantysilio and its history is inextricably linked with what is now known as the Montgomery Canal.
A contemporary canal map may suggest the Llangollen Canal from Hurleston to Llangollen as being a principal route into Wales but this was not always the case and it was intended that the Montgomery Canal, an agricultural line, should form the backbone of a mid-Wales route from north to south. However, various proposed connections and extensions failed to materialise.
The line from Telford's Horseshoe Falls from Llantysilio to Llangollen was primarily a feeder and, following an Act of 1944, the same period in which around 175 miles of the old Shropshire network were closed, it survived abandonment by supplying water to Hurleston Reservoir. In 1936 a breach near Perry isolated the Montgomery Canal from the rest of the system and perceptions subsequently changed, with the canal from Llangollen to Hurleston becoming the main line of the Llangollen Canal and the derelict Montgomery seen as merely a spur off it at Welsh Frankton.
The Llangollen Canal is now considered a canal in its own right and has become one of the busiest pleasure waterways on the network, especially in the high season.
Hanes Camlas Llangollen
Mae Camlas y Shropshire Union, neu’r ‘Shroppie’, yn derm cyffredinol am rwydwaith eang o dros 200 milltir o ddyfrffyrdd a oedd ar un adeg yn eiddo i Gwmni Rheilffyrdd a Chamlesi'r Shropshire Union. Roedd y llwybr sydd nawr yn cael ei adnabod fel Camlas Llangollen yn arfer bod yn rhan o’r rhwydwaith hwn. Mae’n llifo o Gyffordd Hurleston i dref Llangollen ac ymlaen i Lantysilio ac mae gan ei hanes gysylltiad cryf â’r llwybr a adnabyddir erbyn hyn fel Camlas Maldwyn.
Efallai fod mapiau diweddar o’r camlesi’n awgrymu bod Camlas Llangollen o Hurlseton i Langollen yn un o’r prif lwybrau i mewn i Gymru, ond ar un adeg nid oedd hyn yn wir gan mai bwriad Camlas Maldwyn, sy’n llwybr amaethyddol, oedd bod yn asgwrn cefn i lwybr arall drwy’r canolbarth yn cysylltu’r gogledd a’r de. Fodd bynnag, ni wnaeth y cysylltiadau a’r amrywiol estyniadau arfaethedig ddwyn ffrwyth.
Roedd y llwybr Rhaeadr y Bedol Telford o Lantysilio i Langollen yn ffos gyflenwi yn bennaf ac ar ôl Deddf 1944, pan gaewyd oddeutu 175 milltir o hen rwydwaith Swydd Amwythig, llwyddodd i oroesi drwy gyflenwi dŵr i Gronfa Ddŵr Hurleston. Yn 1936, pan fu toriad i’w glannau ger Perry, ynyswyd Camlas Maldwyn o weddill y system ac o ganlyniad newidiodd canfyddiadau pobl, gyda’r ffordd o Langollen i Hurleston yn dod yn brif lwybr Camlas Llangollen, a Chamlas ddiffaith Maldwyn yn cael ei hystyried yn llwybr dibwys oddi arni yn Welsh Frankton.
Nawr, fe ystyrir Camlas Llangollen yn gamlas o’r iawn ryw, ac mae wedi datblygu’n un o ddyfrffyrdd mwyaf poblogaidd y rhwydwaith, yn enwedig pan mae’r gwyliau ar ei anterth.
